Croeso i’n gwefan newydd.

Cyfleuster ôl-gynhyrchu sain yw Cranc sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd, De Cymru, sy’n darparu gwasanaeth dybio ar gyfer rhaglenni dogfen, hysbysebion a promos, animeiddio, drama gyda dyluniad sain a gosod traciau ar gyfer yr uchod i gyd.

English Version
Rîl / Oriel.

Gallwn bellach ddangos darnau o’n gwaith i chi ar-lein i chi gael eu mwynhau... Diolch i’r holl gwmnïau yr ydym wedi gweithio iddynt sydd wedi caniatáu i ni ddangos ein doniau...Caiff y dudalen rîl ei diweddaru o bryd i’w gilydd, felly edrychwch arni yn rheolaidd i weld yr hyn sy’n newydd...

Yn y cyfamser... cliciwch yma i fynd i’r dudalen arddangos.

Noder bydd angen Flashplayer arnoch i weld y fideos! Gallwch ei gael yma.

Casgliad y gellir ei bori o luniau o griw Cranc.

Mae’n cynnwys lluniau llunio rhai o’r stiwdios yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol...

Cliciwch yma i fynd i dudalen yr Oriel.
Y Stiwdios.
Mae Stiwdio 1 yn cynnwys y dechnoleg sain ddiweddaraf. Arwyneb rheoli wedi ei adeiladu ar system Pro Tools HD Accel gadarn yn llawn offer sain hanfodol. Monitro sain agos Genelec a JBL Control 1 ar gyfer gwirio ar gyfer saib teledu. Mae Monitor mawr i’r cleient allu gwylio. Yn cynnwys system effeithiau sain cwbl chwiliadwy wedi’i digideiddio ar gyfer boddhad sonig sydyn. Ystafell reoli gyfforddus, gyda desg ar gyfer gweithio a bwth lleisiol.

Mae Stiwdio 2 hefyd yn cynnwys arwyneb rheoli wedi ei adeiladu ar system Pro Tools HD Accel gydag offer sain hanfodol. Monitro sain agos Genelec a JBL Control 1 ar gyfer gwirio ar gyfer saib teledu. Mae Monitor mawr i’r cleient allu gwylio. Yn cynnwys system effeithiau sain cwbl chwiliadwy wedi’i digideiddio ar gyfer boddhad sonig sydyn. Ystafell reoli gyfforddus, gyda desg ar gyfer gweithio a bwth lleisiol.

Mae Stiwdio 3 yn cynnwys consol Digidesign ICON ES newydd sbon, system Pro Tools HD a system sain amgylchynol Genelec 5.1. Cafodd yr ystafell reoli fawr ei dylunio ar gyfer cymysgu amgylchynol 5.1 ac mae ganddi’r holl daclau sy’n angenrheidiol ar gyfer fformatiau cyflwyno HD. Mae’r bwth mawr yn ofod pwrpasol wedi ei adeiladu gan IAC Acoustics ac mae ganddo ffynonellau Mic lluosog ac mae lle i hyd at 10 o bobl. Gweler mwy o luniau yn yr Oriel.

Mae Gosod Traciau yn ffordd fforddiadwy o baratoi prosiectau ar gyfer cymysgu mewn stiwdio. Mae gan yr ystafell Gosod Traciau fynediad i’r un gronfa enfawr o effeithiau sain â’r stiwdios a gall hefyd ddefnyddio’n harchif brosiectau gyfan i ddod o hyd i unrhyw sain. Mae Gosod Traciau yn fwy addas ar gyfer prosiectau ffurf hir fel drama, animeiddio ac ati. Mae’r ystafell Gosod Traciau hefyd yn addas ar gyfer dylunio sain dwys ar brosiectau ffurf byr.
The People.
Mae Daf yn 40 – mae’n briod gyda 3 o blant ond dim ond 1 wraig. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad ym maes ôl-gynhyrchu ac mae wedi gosod traciau ac wedi cymysgu amrywiaeth eang o brosiectau.


Cliciwch yma i anfon e-bost at Dafydd.

Coupe o’r 60au – Model Chwaraeon. Mae’r injan mewn cyflwr da ond mae angen rhywfaint o sylw ar y corff. Un perchennog, ddim yn smygu, dibynadwy/teyrngar a gweithgar - GSOH. Yn chwilio am broffesiynolion am berthynas hirdymor (gwrywaidd / benywaidd neu grwpiau!!!). Geirdaon di-fai, cysylltwch am fwy o wybodaeth..... ON – Yn briod gyda thri o blant ac yn hapus iawn

Cliciwch yma i anfon e-bost at Greg.
Ddeng mlynedd yn ôl, ar ôl graddio ym Mhrifysgol Salford gyda gradd mewn technoleg sain ac acwsteg, daeth Steve yn gymysgydd dybio yn gyflym iawn. Mae Steve hefyd yn mwynhau gofalu am gyfrifiaduron ac mae’n cyfaddef ei fod yn dipyn o ‘geek’ ac yn ‘macolyte’! Gochelwch rhag trafod pethau’n ymwneud ag Apple gydag ef – er y bydd yn gallu rhoi cyngor ar ateb yn ymwneud â ‘Mac’ fydd yn addas i chi!

Cliciwch yma i anfon e-bost at Steve.
Gwaed Newydd cyntaf Cranc! Yn wreiddiol o Aberystwyth yng Nghanolbarth Cymru, daeth Robin atom am fod ganddo radd mewn Technoleg Cerddoriaeth o Goleg Cerdd a Drama Cymru. Mae wrth ei fodd yn beicio mynydd a chyda theclynnau, felly gall faeddu Greg a bod yn fwy o ‘geek’ na Steve!

23 oed - Iesu mawr, wedi ei eni canol yr Wythdegau!!

Cliciwch yma i anfon e-bost at Robin.
Ychydig Amdanom Ni
Gwybodaeth am y Cwmni. Dechreuodd Cranc yn 2005 a thair blynedd yn ddiweddarach rydym yn dal i ffynnu! Gyda thros 40 mlynedd o brofiad rhyngom rydym yn gwybod beth rydym yn ei wneud, wedi gweithio ar bopeth o hysbysebion radio lleol ar gyllideb isel i ddrama rhwydwaith proffil uchel. Ein nod yw creu stiwdios lle mae’r pwyslais ar ddawn greadigol a gwaith o ansawdd mewn awyrgylch hapus. Rydym yn cynnal safonau uchel ar bob cynhyrchiad o ddarlledu lleol i ofynion manylder uwch byd-eang. Mae ein prosiectau presennol yn cynnwys gwaith ar gyfer BBC Cymru, S4/C, BBC Rhwydwaith, Channel 5, Discovery a hyd yn oed y cyd-gynhyrchiad cyntaf erioed gydag Al Jazeera. Yn ddiweddar rydym wedi cyflogi doniau newydd ac wedi ymestyn ein cyfleusterau Stiwdio i fodloni gofynion ein rhestr gynyddol o gleientiaid.
46 Ffordd Caerdydd, Llandaf
Caerdydd
CF5 2DT

(ffôn):+44(0)29 2056 5858
(e-bost):post@cranc.co.uk
(gwe):cranc.co.uk

Am gyfarwyddiadau, ceir map yma neu gallwch gael ein marc llyfr ar Google Earth.
Gwybodaeth Dechnegol.
Ydych chi’n adnabod rhywun sydd â llais gwych ond ddim yn ddeniadol iawn? Neu efallai eu bod wedi symud i bellafon byd a’ch gadael yn y cawl(cach!), neu eu bod wedi eich gadael ar ganol eich ymgyrch fwyaf... Peidiwch â phoeni, ewch â nhw i stiwdio ag ISDN ac fe wnawn ni’r gweddill. Gallwn gysylltu â chyfleusterau dros y byd i gyd i recordio eich hoff artist – fel pe baent yn y bwth nesaf!

Iawn. Panig drosodd. Rydych wedi cymysgu’r hysbysebion radio holl bwysig hynny. O na, mae’n brynhawn Gwener ac mae’n rhaid iddynt fod ar yr awyr fore Llun – dim amser i anfon CDs allan! Yr ateb yw eu hanfon at gannoedd o orsafoedd radio cenedlaethol trwy ISDN. Rhyddhad!.

Yn olaf – Dalier sylw cyfleusterau – Cyflwynydd wedi mynd ar goll yn Ne Cymru? Y sêr pop diweddara wedi diflannu ochr draw’r bont pan fyddwch eu hangen? Angen fersiwn Cymraeg o’ch cynhyrchiad? Dewch â nhw atom ni a gallwn gysylltu ag unrhyw fan â codec ynghynt nag y gallwch ddweud "Does Unman yn Debyg i Gymru"
Y dyddiau hyn OMF neu AAF yw’r ffordd fwyaf cyfleus o drosglwyddo sain o’r cyfleuster golygu i’r cyfleuster dybio. O’i ymarfer mae’r dull hwn yn ffordd gyflym a dibynadwy o symud y sain wedi ei olygu i lawr y gadwyn ôl-gynhyrchu. Mae’n well gennym os yw ein OMFs a’n AAFs ar 48khz ac yn OMF fersiwn 2, er yn ymarferol gallwn ymdrin ag unrhyw gyfradd samplu. Gellir eu cludo ar CD / DVD / gyriant fflach USB / firewire neu HDDs USB2 / iPod ac ati

Am fwy o wybodaeth am baratoi prosiectau ar gyfer omf, gweler gwefan Avid..
Gyda mynediad i’n gweinydd Digidelivery gallwch anfon ffeiliau atom fel OMF, Edl's, Quicktime Video, neu beth bynnag arall y dymunwch (cyhyd â’i fod yn ymwneud â’ch ‘dub’ chi...!). Nid oes cyfyngiad ar faint y ffeil yn yr un ffordd ag e-bost, felly gellir anfon ffeiliau mawr yn hawdd ac yn ddiogel.

Anfonwch e-bost atom yma i gael cyfrif ar ein gweinydd ac yna gallwn anfon cyfarwyddiadau atoch ynghylch sut i ddefnyddio’r gweinydd. Os oes gennych gyfrif yn barod gallwch fewngofnodi yma... mewngofnodi.

Am fwy o wybodaeth, gweler gwefan Digidesign